Cyhoeddi gyda ni
Gwybodaeth gyffredinol
Rydyn ni’n gyhoeddwr sefydliadol ar-lein o gyfnodolion electronig, monograffau ymchwil, papurau gweithio ac adroddiadau. At ddibenion y canllawiau hyn, diffinnir papurau gweithio fel papurau trafodaethau/ymgynghoriadau yn ymwneud ag ymchwil sy’n mynd rhagddo, a diffinnir adroddiadau fel crynodebau o ymchwil sydd wedi’i gwblhau.
Rydym yn disgwyl bod gan ein cyfrolau monograff gyfanswm geiriau o 20,000-80,000, ond byddwn yn ystyried cyflwyniadau monograffau hirach hefyd.
Mae pob croeso i olygyddion ac awduron darnau gwaith mewn fformatau anhraddodiadol gysylltu â ni i gael canllawiau pwrpasol, os nad yw'r rheiny a ddangosir isod yn berthnasol.
Yng Ngwasg Prifysgol Caerdydd, nid ydym yn goddef llên-ladrad o unrhyw fath yn ein cyhoeddiadau. Mae manylion ein gweithdrefnau yn erbyn llên-ladrad ar gael yma.
Costau a thaliadau
Rydym yn gyhoeddwr Mynediad Agored, sy'n cynnig ein holl gyhoeddiadau yn rhad ac am ddim i ddarllenwyr ledled y byd, o dan drwydded Comin Creu. Nid ydym yn codi tâl ar awduron a golygyddion cyfnodolion a chyfresi nad ydynt yn llyfrau am gyhoeddi gyda ni (Mynediad Agored Diemwnt), a ydynt yn gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd ai peidio.
Rhaid i bob monograff a gyhoeddir gennym fod ag o leiaf un awdur neu olygydd sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd. Fel arfer mae'n bosibl i ni dalu holl gostau cyhoeddi (gorfodol) sylfaenol y monograff, felly dim ond am unrhyw opsiynau cyhoeddi ychwanegol a dddewisant y bydd eu hawduron neu olygyddion yn cael eu hanfonebu. Fodd bynnag, mae'r trefniant hwn ar gyfer costau sylfaenol cyhoeddi yn amodol ar lefelau cyllido Gwasg Prifysgol Caerdydd; pan nad oes digon o gyllid ar gael, bydd yr awdur neu’r golygydd yn cael eu hanfonebu’n llawn am y Ffi Prosesu Llyfr os ydynt yn penderfynu parhau â’r cyhoeddiad. Bydd y sefyllfa ariannu yn cael ei chadarnhau gyda’r awdur neu’r golygydd yn gynnar yn y broses gyhoeddi.
Mae costau sylfaenol cyhoeddi monograff Gwasg Prifysgol Caerdydd yn amrywio, gan ddibynnu ar sawl ffactor gwahanol megis cyfanswm y geiriau, nifer y penodau, cynlluniau, pwysau'r papur a ddefnyddir ac yn yblaen. Mae'r rhan fwyaf o fonograffau yn costio tua £5,500 i £6,000 gan gynnwys TAW, ond gall cyfrolau hirach neu fwy cymhleth gostio £8,000 neu ragor. Mae amcangyfrifon cost cyhoeddi ychwanegol dewisol yn amrywio rhwng £120 a £1,400 gan gynnwys TAW, gan ddibynnu ar yr hyn y gofynnir amdano.
Ar gyfer y golygyddion
Rydym yn hapus i ystyried cynigion ar gyfer teitlau newydd. Mae pob croeso i olygyddion sydd eisiau trosglwyddo cyfnodolion neu gyfres o deitlau sefydledig i Wasg Prifysgol Caerdydd wneud cais hefyd. Darllenwch y canllawiau isod ac yna cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Canllawiau ar gyfer cynigion cyfresol (cyfnodolion, cyfres o bapurau gweithio neu cyfres o adroddiadau)
Lawrlwythwch ein ffurflenni cynnig ar gyfer:
Cyfnodolion
Cyfresi monograffau, adroddiadau neu bapurau gwaith
- Mae'n rhaid i deitlau gael eu rheoli gan dîm golygyddol annibynnol o arbenigwyr cydnabyddedig yn y maes, sy'n cynnwys o leiaf un academydd o Brifysgol Caerdydd ac o leiaf un academydd o brifysgol arall.
- Dylai’r themâu a'r meysydd pwnc fod yn berthnasol i ddiddordebau ymchwil o leiaf un academydd neu grŵp o academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd.
- Dylai galwadau am gyhoeddiadau annog cyflwyniadau gan gyfranwyr rhyngwladol.
- Wrth gyflwyno cynnig i gyhoeddi cyfnodolyn neu gyhoeddiad, bydd yn cael ei adolygu gan Fwrdd Golygyddol Gwasg Prifysgol Caerdydd. Os bydd y cynnig yn llwyddiannus, byddwn yn cytuno ar gontract cyhoeddi gyda’r golygydd ac yn rhoi cyngor iddynt ar sut i lunio dogfen Trwydded i Gyhoeddi ar gyfer eu hawduron.
Canllawiau ar gyfer cynigion monograffau (llyfrau, cyfres o lyfrau, papurau gweithio sengl neu adroddiadau sengl)
Lawrlwythwch ein ffurflenni cynnig ar gyfer:
Cyfres i monograffau, adroddiadau neu bapurau gwaith
Llyfrau ysgolheigaidd unigol, cyfrolau unigol wedi’u golygu neu fonograffau unigol eraill
- Mae'n rhaid i bob cyfres o lyfrau/cyfres o werslyfrau gael eu rheoli gan dîm golygyddol annibynnol o arbenigwyr cydnabyddedig yn y maes, sy'n cynnwys o leiaf un academydd o Brifysgol Caerdydd ac o leiaf un academydd o brifysgol arall.
- Dylai themâu a meysydd pwnc cyflwyniadau monograff fod yn berthnasol i ddiddordebau ymchwil o leiaf un academydd neu grŵp o academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd. Nid ydym yn derbyn monograffau sydd wedi'u hanelu'n bennaf at fyfyrwyr israddedig neu aelodau o'r cyhoedd; mae prif ffocws ein holl fonograffau ar ymchwil academaidd.
- Nid ydym yn caniatáu cyflwyniadau i fwy nag un cyhoeddwr ar yr un pryd. Ni chaiff unrhyw fonograff a gyflwynir i ni i’w gyhoeddi fod o dan ystyriaeth i gael ei gyhoeddi gan gyhoeddwr arall ar yr un pryd.
- Cynhelir adolygiadau gan gymheiriaid ar gyfer ein holl gyhoeddiadau monograff gan staff academaidd sydd ag arbenigaeth briodol yn y ddisgyblaeth, a ddewiswyd gan ein Panel Comisiynu Monograffau. Os oes adolygiadau blaenorol gan gymheiriaid yn bodoli ar gyfer monograff a gyflwynir, bydd gennym ddiddordeb i’w gweld, ond bydd ein penderfyniad o ran cyhoeddi’r monograff ai peidio’n seiliedig ar argymhellion ein hadolygwyr cymheiriaid ni, ac nid adolygwyr blaenorol.
- Ni ddylid codi tâl ar ddarllenwyr i gyrchu a lawrlwytho'r gwaith. Fel y nodwyd uchod, dim ond os yw o leiaf un o'i hawduron neu olygyddion yn aelod o Brifysgol Caerdydd y caiff monograff a gyflwynir ei ystyried i'w gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Caerdydd. Fel arfer mae'n bosibl i gostau cyhoeddi (gorfodol) sylfaenol y monograffau hyn gael eu talu gan Wasg Prifysgol Caerdydd. Dim ond am unrhyw opsiynau cyhoeddi ychwanegol y bydd yr awduron neu'r golygyddion yn cael eu hanfonebu. Fodd bynnag, mae'r trefniant hwn ar gyfer costau cyhoeddi sylfaneol yn amodol ar lefelau cyllido Gwasg Prifysgol Caerdydd; pan nad oes digon o gyllid ar gael, bydd rhai awduron neu olygyddion yn cael eu hanfonebu am y Ffi Prosesu Llyfr lawn os ydynt yn penderfynu parhau â'r cyhoeddiad. Byddwn yn cadarnhau’r sefyllfa gyllido gyda nhw yn gynnar yn y broses gyhoeddi.
- Os ydych yn ddarpar olygydd sydd eisiau cyhoeddi un gyfrol, mae croeso i chi gyflwyno ffurflen mynegi diddordeb a/neu ffurflen gynnig inni cyn cwblhau’r llawysgrif. Neu, os oes gyda chi llawysgrif lawn yn barod nawr, cyflwynwch y llawysgrif gyda’r ffurflen yn syth.
- Os ydych yn ddarpar olygydd sy'n eisiau cyhoeddi cyfres monograffau, bydd angen i chi gwblhau a chyflwyno ffurflen gynnig cyfres a ffurflen gynnig un gyfrol, ynghyd â chyflwyno llawysgrif lawn y gyfrol gyntaf yn y gyfres.
- Dylid nodi nad ydym yn derbyn llawysgrifau copi caled.
- Ar ôl i'ch llawysgrif a'ch ffurflenni ar gyfer y rhan fwyaf o fformatau monograff ddod i law, bydd ein Panel Comisiynu Monograffau yn eu hystyried, ac yn eu hanfon i'w hadolygu gan gymheiriaid os ydynt yn bodloni meini prawf y Panel. Bydd y Panel yn argymell i'r Bwrdd Golygyddol p'un ai i dderbyn neu wrthod ar sail yr adolygiadau a gafwyd gan gymheiriaid a dderbyniwyd ac ymatebion y golygydd neu'r awdur iddynt. Os bydd y gwaith yn cael ei dderbyn i'w gyhoeddi, byddwn yn cytuno ar gontract cyhoeddi gyda’r golygydd neu’r awdur.
- Ar gyfer cyfres monograff, mae'n rhaid i bob cyfrol yn y gyfres gael ei chyflwyno a'i hadolygu gan gymheiriaid ar wahân.
- Rydym yn defnyddio trwyddedau Comin Creu ar gyfer pob gwaith a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Caerdydd, gan gynnig dewis o ddau: CC BY-NC (Attribution-NonCommercial) neu CC BY-NC-ND (Attribution-NonCommercial-NoDerivatives). Mae’n rhaid i olygyddion ddewis y drwydded ragosodedig mwyaf priodol ar gyfer pob cyfrol, fel bod modd iddynt sicrhau cydymffurfiaeth â’u cyllidwyr yn y Deyrnas Unedig. Am cyfrol wedi'i golygu, rydym yn caniatáu i awduron unigol ddewis y naill drwydded neu’r llall ar gyfer eu gwaith eu hun, waeth beth yw’r drwydded ragosodedig a ddewisir gan y golygydd, fel bod modd i awduron gydymffurfio â’u cyllidwyr yn y Deyrnas Unedig. Mae gofyn i olygyddion roi gwybod i awduron bod y dewis hwn ar gael iddynt.
Ar gyfer awduron
Canllawiau ar gyfer cyflwyno cyfresi (erthyglau cyfnodolion, cyfres o bapur gweithio neu cyfres o adroddiadau)
- Bydd canllawiau pob cyhoeddiad yn dynodi a yw'r golygydd am gael y cyflwyniadau drwy e-bost, neu drwy gyfrwng system gyflwyno'r llwyfan cadw. Ar gyfer cyflwyniadau llwyfan, bydd angen i awduron gofrestru ar y wefan hon.
- Caiff cyflwyniadau addas eu hanfon i'w hadolygu gan gymheiriaid a rhaid cwblhau'r broses adolygu gan gymheiriaid cyn i'r tîm golygyddol ddod i benderfyniad terfynol ynghylch derbyn neu wrthod y gwaith.
- Fel cyhoeddwr Mynediad Agored Diemwnt o gyfnodolion a chyfresi, ni fyddwn yn codi tâl ar yr awdur i gyhoeddi erthyglau gyda ni. Bydd testun llawn eu gwaith ar gael am ddim i’w ddarllen ar-lein.
- Rydym yn caniatáu'r awduron i gadw hawlfraint dros eu gwaith. Gofynnir iddynt ddewis rhwng pedair trwydded Comin Creu, a gall golygyddion roi cyngor iddynt ynghylch hynny. Gall awduron hunan-archifo eu gwaith wrth unrhyw gam, ond gofynnwn eu bod yn cydnabod cyhoeddiad Gwasg Prifysgol Caerdydd fel ffynhonnell ddiffiniol eu gwaith, y fersiwn o’r cofnod.
Canllawiau cyflwyno ar gyfer cyfrolau sengl (llyfrau, papurau gweithio sengl ac adroddiadau sengl)
Lawrlwythwch einffurflenni cynnig ar gyfer:
Llyfrauysgolheigaidd unigol, cyfrolau unigol wedi’u golygu neu fonograffau unigol eraill
- Nid ydym yn caniatáu cyflwyniadau i fwy nag un cyhoeddwr ar yr un pryd. Ni chaiff unrhyw fonograff a gyflwynir i ni i’w gyhoeddi fod o danystyriaeth i gael ei gyhoeddi gan gyhoeddwr arall ar yr un pryd.
- Dylai themâu a meysydd pwnc monograffau fod yn berthnasol i ddiddordebau ymchwil o leiaf un academydd neu grŵp o academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd. Nid ydym yn derbyn monograffau sydd wedi'u hanelu'n bennaf at fyfyrwyr israddedig neu aelodau o'r cyhoedd; mae prif ffocws ein holl fonograffau ar ymchwil academaidd.
- Nid yw traethodau ymchwil doethurol yn addas ar gyfer eu cyhoeddi gan Wasg Prifysgol Caerdydd. Byddwn yn ystyried ysgrifau sy'n seiliedig ar ymchwil ddoethurol, ond rydym yn disgwyl y bydd angen adolygiadau sylweddol ar draethawd ymchwil PhD, ac yn aml rhagor o ymchwil fel ei fod yn addas i'w gyhoeddi fel ysgrif. Am arweiniad pellach ar y gwahaniaethau rhwng traethawd ymchwil ac ysgrif sy'n deillio o draethawd ymchwil, cysylltwch â ni.
- Os ydych yn ddarpar awdur sydd eisiau cyhoeddi un gyfrol, mae croeso i chi gyflwyno ffurflen mynegi diddordeb a/neu ffurflen gynnig inni cyn cwblhau eich llawysgrif. Neu, os oes gyda chi llawysgrif lawn yn barod nawr, cyflwynwch y llawysgrif gyda’r furflen yn syth.
- Dylid nodi nad ydym yn derbyn llawysgrifau copi caled.
- Ar ôl i'r llawysgrif a'r ffurflen ddod i law, bydd ein Panel Comisiynu Monograffau yn eu hystyried, ac yn eu hanfon i'w hadolygu gan gymheiriaid os ydynt yn bodloni meini prawf y Panel. Bydd y Panel yn argymell i'r Bwrdd Golygyddol p'un ai i dderbyn neu wrthod ar sail yr adolygiadau a gafwyd gan gymheiriaid a dderbyniwyd ac ymatebion yr awdur iddynt.
- Cynhelir adolygiadau gan gymheiriaid ar gyfer ein holl gyhoeddiadau monograff gan staff academaidd sydd ag arbenigaeth briodol yn y ddisgyblaeth, a ddewiswyd gan ein Panel Comisiynu Monograffau. Os oes adolygiadau blaenorol gan gymheiriaid yn bodoli ar gyfer monograff a gyflwynir, bydd gennym ddiddordeb i’w gweld, ond bydd ein penderfyniad o ran cyhoeddi’r monograff ai peidio’n seiliedig ar argymhellion ein hadolygwyr cymheiriaid ni, ac nid adolygwyr blaenorol.
- Os bydd y gyfrol yn cael ei derbyn i'w chyhoeddi, byddwn yn cytuno ar gontract cyhoeddi gyda’r awdur neu’r golygydd.
- Fel y nodwyd uchod, dim ond os yw o
leiaf un o'i hawduron neu olygyddion yn aelod o Brifysgol Caerdydd y
caiff monograff a gyflwynir ei ystyried i'w gyhoeddi gan Wasg Prifysgol
Caerdydd. Fel arfer mae'n bosibl i gostau cyhoeddi (gorfodol) sylfaenol y
monograffau hyn gael eu talu gan Wasg Prifysgol Caerdydd. Dim ond am
unrhyw opsiynau cyhoeddi ychwanegol y bydd yr awduron neu'r golygyddion
yn cael eu hanfonebu. Fodd bynnag, mae'r trefniant hwn ar gyfer costau
cyhoeddi sylfaneol yn amodol ar lefelau cyllido Gwasg Prifysgol
Caerdydd; pan nad oes digon o gyllid ar gael, bydd rhai awduron yn cael eu hanfonebu am y Ffi Prosesu Llyfr lawn os ydynt yn
penderfynu parhau â'r cyhoeddiad. Byddwn yn cadarnhau’r sefyllfa gyllido gyda nhw yn gynnar yn y broses gyhoeddi.
- Bydd testun llawn y gyfrol gyhoeddedig ar gael am ddim i’w darllen ar-lein. Rydym yn caniatáu'r awduron i gadw hawlfraint dros eu gwaith. Gallant ddewis naill ai’r drwydded CC BY-NC (Attribution-NonCommercial) neu'r CC BY-NC-ND (Attribution-NonCommercial-NoDerivatives), gan wneud yn siŵr, felly, eu bod yn cydymffurfio â thrwydded eu cyllidwr yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn gofyn bod ein golygyddion cyfresi yn rhoi gwybod i bob awdur monograff yn y gyfres bod y dewis hwn ar gael iddynt. Mae gofyn i olygyddion cyfrolau wedi'i golygu wneud hynny hefyd.
- Gall awduron hunan-archifo eu gwaith wrth unrhyw gam, ond gofynnwn eu bod yn cydnabod cyhoeddiad Gwasg Prifysgol Caerdydd fel ffynhonnell ddiffiniol eu gwaith, y fersiwn o’r cofnod.