• Part of
    Ubiquity Network logo
    Publish with us Cyhoeddi gyda ni

    Gonestrwydd ymchwil

    Llywodraethu

    Ein hathroniaeth yng Ngwasg Prifysgol Caerdydd yw ‘Cywirdeb, Amrywiaeth a Pherthnasedd’. Rydyn ni’n ymrwymedig i ragoriaeth yn y maes cyhoeddi academaidd, ac mae ein model llywodraethu yn sicrhau cydymffurfiaeth o ran y cywirdeb a’r safonau uchel sy’n gysylltiedig â chyhoeddi academaidd traddodiadol.

    Mynediad Agored a trwyddedau

    Rydyn ni’n gyhoeddwr Mynediad Agored Diemwnt sy’n cynnig ein holl gyhoeddiadau cyfnodolyn am ddim i ddarllenwyr. Nid ydym yn codi ffi ar awduron a golygyddion am gyhoeddi cyfnodolion gyda ni, ond mae ffioedd ar gyfer cyhoeddi llyfrau, adroddiadau a monograffau eraill.

    Mae trwyddedau Comin Creu Mynediad Agored yn berthnasol i bob cyhoeddiad. Ar gyfer cynnwys cyfnodolion, rydym yn argymell y drwydded CC BY-NC-ND (Attribution-Non-Commercial-NoDerivatives). Gall awduron a golygyddion llyfrau, adroddiadau a monograffau eraill hefyd ddewis rhwng y trwyddedau CC BY-NC (Attribution-NonCommercial) neu CC BY-NC-ND ar gyfer pob cyfrol.

    Datganiad data ymchwil

    Mae Cod Ymarfer Uniondeb Ymchwil a’i Lywodraethu y Brifysgol, a gymeradwywyd gan y Senedd ym mis Ebrill 2015, yn cynnwys gofynion o ran data agored ac yn nodi:

    “Yn amodol ar gyfyngiadau cyfreithiol, moesegol a masnachol, dylid sicrhau bod yr holl allbynnau ymchwil a data a gyllidir yn gyhoeddus ar gael yn agored mewn modd amserol a chyfrifol ac mewn fformat priodol ar ddiwedd y prosiect ymchwil.”

    Gall ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd gysylltu â dataagored@caerdydd.ac.uk am ragor o wybodaeth.

    Llên-ladrad

    Mae Geiriadur Prifysgol Cymru* yn diffinio llên-ladrad fel "y weithred o ladrata gwaith (syniadau, etc.) awdur, cyfansoddwr, etc., a’i gyhoeddi fel gwaith gwreiddiol". 

    Yng Ngwasg Prifysgol Caerdydd, nid ydym yn goddef llên-ladrad o unrhyw fath yn ein cyhoeddiadau. Rydym yn gwrthwynebu llên-ladrad:

    1. Trwy atgoffa golygyddion cyfnodolion a chyfrolau bod ganddynt gyfrifoldeb i sicrhau na chaiff cynnwys sydd wedi’i lên-ladrata ei gyhoeddi yn eu cyfnodolion a’u cyfresi

    2. Trwy sicrhau bod awdur pob monograff, erthygl cyfnodolyn neu bapur yn llofnodi datganiad nad oes cynnwys wedi’i lên-ladrata wedi’i gynnwys yn y gwaith a gyflwynir ganddynt

    3. Trwy fod yn wyliadwrus a defnyddio eu gwybodaeth a’u profiad eu hunain o’r pwnc, a nodi a thynnu sylw at achosion posib o lên-ladrad yn y gwaith a gyflwynir i ni

    4. Trwy drefnu adolygiadau trylwyr gan gymheiriaid ar gyfer pob cyflwyniad, a gyflawnir gan adolygwyr gwybodus sy’n gyfarwydd a gwaith blaenorol ar y pwnc dan sylw ac sy’n gallu sylwi ar enghreifftiau amlwg o lên-ladrad.

    5. Trwy gadw’r hawl i ddefnyddio meddalwedd Turnitin lle bo’n briodol, sydd wedi’i ddylunio i amlygu achosion posib o lên-ladrad

    6. Cynghori eraill ar ddefnyddio Turnitin yn ôl yr angen.

    Os ydych yn tybio bod cynnwys sydd wedi’i gyhoeddi ar y wefan hon wedi’i lên-ladrata o ffynhonnell flaenorol, neu bod cyhoeddiad diweddarach wedi llên-ladrata cynnwys a gyhoeddwyd ar y wefan hon, yna rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib fel bod modd i ni weithredu ar hynny.


    *Thomas, R. J.; Bevan, G. A.; Donavan, P. J., goln. (2003) Geiriadur Prifysgol Cymru.  Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Ar gael yn: http://www.geiriadur.ac.uk/ [Cyrchwyd 9Hydref 2019]


    Adolygu gan gymheiriaid

    Mae ein holl gyhoeddiadau’n dilyn canllawiau’r Pwyllgor Moeseg Cyhoeddiadau (COPE). Mae rhagor o wybodaeth am ein polisi adolygu gan gymheiriaid ar gael yma.

    Archifo a chadw

    Ar hyn o bryd rydyn ni’n cadw ein holl gynnwys ar Wasg Ubiquity, y llwyfan cadw a ddewiswyd gennym. Rydyn ni hefyd yn rhoi testun cyflawn holl gyhoeddiadau Gwasg Prifysgol Caerdydd yn ORCA, storfa sefydliadol y Brifysgol.

    Mae ORCA yn arddangos ystadegau lawrlwytho, altmetreg a data cyfeirio Google Scholar, Scopus a Web of Science. Mae adroddiadau hefyd ar gael drwy ein llwyfan cadw, ac mae ystadegau sylfaenol am ddefnydd DOI ar gael drwy Crossref, ein hasiantaeth DOI.

    Rydyn ni wedi llofnodi cytundeb gyda Portico i gadw ein cynnwys, ac rydyn ni’n anfon y cynnwys hwn yn uniongyrchol atyn nhw ar ôl cyhoeddi.  Mae’r Llyfrgell Brydeinig yn cyrchu ein cyhoeddiadau drwy Portico.  Rydym wrthi’n cofrestru gyda Sherpa Romeo a Chyfeirlyfr y Cyfnodolion Mynediad Agored (DOAJ). Bydd hyn yn cynnig lefelau hyd yn oed yn uwch o ddiogelwch cadw ac yn gwneud ein cyhoeddiadau’n fwy gweladwy.

    Mae Gwasg Prifysgol Caerdydd yn gyhoeddwyr ymchwil academaidd sy’n cynnig Mynediad Agored llawn. Perchennog yr hawlfraint gwreiddiol sy’n cadw’r hawlfraint ar gyfer yr erthyglau a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Caerdydd.

    Cyhoeddir yr holl waith gyda thrwydded Comin Creu a nodir y drwydded yn nogfen PDF yr erthygl neu’r monograff.

    Gall awduron gyflwyno eu herthyglau a’u monograffau (gan gynnwys cyn-brintiau ac ôl-brintiau) ar-lein heb embargo e.e. mewn storfeydd sefydliadol, mewn gweinyddion cyn-argraffu neu ar eu tudalennau ar y we, ar yr amod eu bod yn creu dolen i’r fersiwn sydd wedi’i chyhoeddi drwy DOI pan fydd y DOI ar gael.