• Part of
    Ubiquity Network logo
    Publish with us Cyhoeddi gyda ni

    Cyhoeddi gyda ni


    Gwybodaeth gyffredinol

    Rydyn ni’n gyhoeddwr sefydliadol ar-lein o gyfnodolion electronig, monograffau ymchwil, papurau gweithio ac adroddiadau. At ddibenion y canllawiau hyn, diffinnir papurau gweithio fel papurau trafodaethau/ymgynghoriadau yn ymwneud ag ymchwil sy’n mynd rhagddo, a diffinnir adroddiadau fel crynodebau o ymchwil sydd wedi’i gwblhau.

    Rydym yn disgwyl bod gan ein cyfrolau monograff gyfanswm geiriau o 20,000-80,000, ond byddwn yn ystyried cyflwyniadau monograffau hirach hefyd.

    Mae pob croeso i olygyddion ac awduron darnau gwaith mewn fformatau anhraddodiadol gysylltu â ni i gael canllawiau pwrpasol, os nad yw'r rheiny a ddangosir isod yn berthnasol.

    Yng Ngwasg Prifysgol Caerdydd, nid ydym yn goddef llên-ladrad o unrhyw fath yn ein cyhoeddiadau. Mae manylion ein gweithdrefnau yn erbyn llên-ladrad ar gael yma.


    Costau a thaliadau

    Rydym yn gyhoeddwr Mynediad Agored, sy'n cynnig ein holl gyhoeddiadau yn rhad ac am ddim i ddarllenwyr ledled y byd, o dan drwydded Comin Creu. Nid ydym yn codi tâl ar awduron a golygyddion cyfnodolion a chyfresi nad ydynt yn llyfrau am gyhoeddi gyda ni (Mynediad Agored Diemwnt), a ydynt yn gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd ai peidio.

    Rhaid i bob monograff a gyhoeddir gennym fod ag o leiaf un awdur neu olygydd sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd. Fel arfer mae'n bosibl i ni dalu holl gostau cyhoeddi (gorfodol) sylfaenol y monograff, felly dim ond am unrhyw opsiynau cyhoeddi ychwanegol a dddewisant y bydd eu hawduron neu olygyddion yn cael eu hanfonebu. Fodd bynnag, mae'r trefniant hwn ar gyfer costau sylfaenol cyhoeddi yn amodol ar lefelau cyllido Gwasg Prifysgol Caerdydd; pan nad oes digon o gyllid ar gael, bydd yr awdur neu’r golygydd yn cael eu hanfonebu’n llawn am y Ffi Prosesu Llyfr os ydynt yn penderfynu parhau â’r cyhoeddiad. Bydd y sefyllfa ariannu yn cael ei chadarnhau gyda’r awdur neu’r golygydd yn gynnar yn y broses gyhoeddi.

    Mae costau sylfaenol cyhoeddi monograff Gwasg Prifysgol Caerdydd yn amrywio, gan ddibynnu ar sawl ffactor gwahanol megis cyfanswm y geiriau, nifer y penodau, cynlluniau, pwysau'r papur a ddefnyddir ac yn yblaen. Mae'r rhan fwyaf o fonograffau yn costio tua £5,500 i £6,000 gan gynnwys TAW, ond gall cyfrolau hirach neu fwy cymhleth gostio £8,000 neu ragor. Mae amcangyfrifon cost cyhoeddi ychwanegol dewisol yn amrywio rhwng £120 a £1,400 gan gynnwys TAW, gan ddibynnu ar yr hyn y gofynnir amdano.


    Ar gyfer y golygyddion

    Rydym yn hapus i ystyried cynigion ar gyfer teitlau newydd. Mae pob croeso i olygyddion sydd eisiau trosglwyddo cyfnodolion neu gyfres o deitlau sefydledig i Wasg Prifysgol Caerdydd wneud cais hefyd.  Darllenwch y canllawiau isod ac yna cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

    Canllawiau ar gyfer cynigion cyfresol (cyfnodolion, cyfres o bapurau gweithio neu cyfres o adroddiadau)

    Lawrlwythwch ein ffurflenni cynnig ar gyfer:
    Cyfnodolion
    Cyfresi monograffau, adroddiadau neu bapurau gwaith

    Canllawiau ar gyfer cynigion monograffau (llyfrau, cyfres o lyfrau, papurau gweithio sengl neu adroddiadau sengl)

    Lawrlwythwch ein ffurflenni cynnig ar gyfer:
    Cyfresi monograffau, adroddiadau neu bapurau gwaith

    Llyfrau ysgolheigaidd unigol, cyfrolau unigol wedi’u golygu neu fonograffau unigol eraill

    Ar gyfer awduron

     Canllawiau ar gyfer cyflwyno cyfresi (erthyglau cyfnodolion, cyfres o bapur gweithio neu cyfres o adroddiadau)

    Canllawiau cyflwyno ar gyfer cyfrolau sengl (llyfrau, papurau gweithio sengl ac adroddiadau sengl)

    Lawrlwythwch ein ffurflenni cynnig ar gyfer:
    Llyfrau ysgolheigaidd unigol, cyfrolau unigol wedi’u golygu neu fonograffau unigol eraill